Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 2 Gorffennaf 2020
Amser:
09.00 -
12.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6359
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Dr David Bailey, BMA Cymru Dr Phil Banfield, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru Richard Johnson, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Alice Jones, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Tom Bysouth, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain Lauren Harrhy, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain David Johnson, Cymdeithas Ddeintyddol Prydain |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Rebekah James (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AS.
2 COVID:19 - Sesiwn dystiolaeth gyda BMA Cymru a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BMA Cymru a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4
3.1 Cytunodd y Pwyllgor i’r Cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4.
4 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru.
5.2 Cytunodd Tom Bysouth i rannu rhestr o argymhellion Pwyllgor Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol Cymru gyda'r Pwyllgor hwn.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Papur ar gyfer y cyfarfod o Fwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch dyfodol yr Adran Driniaeth Frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg
6.1 Nododd y Pwyllgor y papur.
6.2 Llythyr gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth ynghylch gofal diwedd oes mewn carchardai
6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i’r Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
8 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.